Mae arweinydd Catalwnia wedi apelio ar ei gefnogwyr i ymwrthod rhag trais yn eu gwrthwynebiad i weithredoedd llywodraeth Sbaen.

Mewn darllediad byr a oedd wedi ei recordio o flaen llaw, mae Carles Puigdemont yn galw am wrthwynebiad democrataidd i erthygl 155, y ddeddfwriaeth a gafodd ei defnyddio i gipio grym oddi ar Catalwnia.

Roedd hefyd yn ymddangos fel pe bai’n gwrthod cydnabod na derbyn penderfyniad y llywodraeth ym Madrid i’w ddiswyddo ddoe.

“Byddwn yn parhau i weithio i adeiladu gwlad rydd,” meddai, gydag arwyddlun llywodraeth Catalwnia, baneri Catalwnia a’r Undeb Ewropeaidd, ond heb faner Sbaen, yn gefndir iddo.

Er hyn, ni chyhoeddodd unrhyw gamau penodol y bydd yn eu cymryd.

Parch

Gofynnodd i’w gydwladwyr “ddal ati heb drais, heb sarhad, mewn modd cynhwysol a gan ddangos parch at y Catalanwyr hynny nad ydyn nhw’n cytuno â mwyafrif y senedd.

“Boed inni gael amynedd a dyfal barhad. Mae’n amlwg mai’r ffordd orau o amddiffyn yr hyn a enillwyd hyd yma yw’r gwrthwynebiad democrataidd i erthygl 155.

“Rhaid inni beidio am un funud â chefnu ar ymddwyn yn foesgar a heddychlon.”