Mae’r heddlu’n ymchwlio ar ôl i feiciwr gael ei ladd mewn gwrthdrawiad rhwng car a thri beic ym Mro Morgannwg tua 7.20 y bore yma.

Roedd y dyn 26 oed o Gaerdydd wedi marw yn y fan a’r lle yn y gwrthdrawiad rhwng Skoda Octavia gwyn a’r beicwyr ar ffordd yr A48 rhwng ffordd osgoi’r Bontfaen a Phentre Meurig.

Aed â’r ddau feiciwr arall i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont yn dioddef o anafiadau ond nid yw eu bywydau mewn perygl.

Cafodd dyn lleol 36 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad, neu unrhyw un a allai fod wedi gweld sut roedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad gysylltu â nhw ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555111 a nodi cyfeirnod 1700418785.