Y Cyrnol Gaddafi
Mae cefnogwyr Muammar Gaddafi yn dal i frwydro drosto yn Libya, er bod y terfyn amser ar gyfer ildio’n heddychlon yn dirwyn i ben o fewn oriau.

Mi danion nhw rocedi ar eu gwrthwynebwyr i’r de o Dripoli heddiw.

“Heddiw yw diwrnod ola’r deadline,” meddai Abdel-Razak al-Nazouri, un o’r gwrthryfelwyr.

“Mae ein dynion yn paratoi i ymosod [ar ffyddloniaid Gaddafi], fwy na thebyg yfory.”

Ac roedd neges un arall o’r milwyr yn fwy plaen: “Rydym yn paratoi am ryfel,” meddai Osama al-Fassi.

Wrth i’r gwrthryfelwyr arwain y chwyldro yn Libya a cheisio sefydlogi’r wlad, mae son bod Gaddafi ei hun yn cuddio yn ei dref enedigol yn Sirte, rhyw 90 milltir i’r de-ddwyrain o Dripoli.

Nid yw Gaddafi ei hun wedi ymddangos yn gyhoeddus ers misoedd ac fe aeth i guddio dan ddaear pan ddaeth ei elynion i Driploli ar Awst 21.