Silvio Berlusconi, Prif Weinidog yr Eidal
Mae gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys trafnidiaeth a meysydd awyr wedi eu cau yn yr Eidal heddiw wrth i weithwyr gynnal streic cyffredinol.
Mae gweithwyr rheilffyrdd, systemau trafnidiaeth dinasoedd a’r fferïau oll wedi streicio, ar y cyd â gweithwyr ysbytai, postmyn a banciau.
Mae arweinydd undeb CGIL, Susanna Camusso, wedi dweud fod toriadau’r llywodraeth yn annheg ac anghyfrifol, ac yn targedu gweithwyr yn y sector gyhoeddus.,
Mae’r undebau yn dweud na fydd toriadau a threthi newydd yn hwb i’r economi ac yn arwain at ragor o golli swyddi.
Mae Prif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, wedi addo dod a’r diffyg ariannol dan reolaeth erbyn 2013.