Abdelbaset al-Megrahi
Mae rhai o seneddwyr yr Unol Daleithiau wedi galw ar wrthryfelwyr Libya i garcharu bomiwr Lockerbie unwaith eto.

Cafwyd Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi yn euog o fomio awyren Pan Am 103 yn yr Alban yn 1988.

Fe fu 270 o bobol farw yn yr ymosodiad, gan gynnwys 189 o Americanwyr.

Cafodd al-Megrahi ei ryddhau yn 2009, a’r gred ar y pryd oedd y byddai yn marw o ganser o fewn tri mis.

Ond cafodd ei dderbyn fel arwr gan Muammar Gaddafi yn Libya ac mae yn parhau yn fyw hyd heddiw.

Mae y Seneddwyr Kirsten Gillibrand a Charles Schumer wedi galw am garcharu al-Megrahi unwaith eto.

Dywedodd y cyngor yn yr Alban sy’n gyfrifol o gadw llygad ar y bomiwr eu bod nhw wedi cysylltu ag ef yn amlach ers dechrau’r gwrthdaro yn Tripoli, prifddinas Libya.

Mae Cyngor Dwyrain Swydd Renfrew wedi bod yn cysylltu â al-Megrahi yn gyson ar y ffôn a drwy gwe-gamera ers iddo gael ei ryddhau o garchar Greenock.

Mae’r Aelod Seneddol, Tory Robert Halfon, wedi galw am anfon al-Megrahi yn ôl i Brydain os yw gweinyddiaeth Muammar Gaddafi yn chwalu.