Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylid codi tâl ar gwmnïoedd sydd eisiau gwneud gwaith ffordd yn ystod cyfnodau prysur yng Nghymru.

Daw’r alwad wedi i Lywodraeth San Steffan ddatgelu eu bod nhw’n bwriadu cyflwyno cynllun o’r fath yn Lloegr.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad, Byron Davies, llefarydd yr wrthblaid ar drafnidiaeth yn y Cynulliad, y dylai Llywodraeth Cymru hefyd gyflwyno’r system.

Mae pobol Cymru wedi laru ar y gwaith ffordd ddi-ben draw ar ffyrdd y wlad, ac fe fyddai codi tâl ar gwmnïau yn eu hannog i ystyried gyrwyr, meddai.

“Yng Nghymru rydyn ni’n fwy cyfarwydd na’r rhan fwyaf â rhwystredigaeth tagfeydd traffig diddiwedd o ganlyniad i waith ffordd,” meddai.

“Mae tagfeydd traffig yn costio cannoedd o filiynau bob blwyddyn i economi Cymru ac yn anghyfleus i deithwyr, busnesau a thwristiaid.

“Rydyn ni’n croesawu cynigion a gyhoeddwyd yn Lloegr i godi tâl ar gwmnïoedd sydd eisiau gwneud gwaith ffordd yn ystod oriau prysur.

“Fe fyddai yn eu hannog nhw i fwrw ati ar adegau tawelach a dros nos pan nad oes yna gymaint o bobol yn defnyddio’r ffyrdd.

“Rydyn ni’n annog Llywodraeth Cymru i fabwysiadu’r cynigion yma er mwyn atal tagfeydd traffig a’u heffaith niweidiol ar economi’r wlad.”