Y Mosg yn Tajour (GNU)
Mae gwrthryfelwyr yn Libya’n honni eu bod wedi dechrau ymosod ar y brifddinas, Tripoli ar ôl cipio trefi cyfagos.

Yn ôl un o’u harweinwyr, roedd y cyrch wedi ei drefnu ar y cyd â lluoedd NATO ac mae’n canolbwyntio ar ddwy ardal yn nhalaith Tripoli – y maes awyr a thref glan môr Tajour.

Roedd arfau wedi symud i’r brifddinas ddydd Gwener, meddai, ac roedd ymosodwyr o’r tu allan yn cydweithio gyda gwrthryfelwyr yn y ddinas ei hun.

Er hynny, mae llefarydd y Llywodraeth yn dweud bod y brifddinas yn parhau’n ddiogel yn eu dwylo nhw.

Fe gafodd newyddiadurwyr eu cymryd i’r maes awyr ddoe er mwyn dangos ei fod yn parhau yn nwylo lluoedd Muammar Gaddafi.

Sŵn ymosod

Ond roedd newyddiadurwyr yn dweud fod sŵn ymladd mawr yn Nhripoli neithiwr, gan gynnwys saethu ac ymosodiadau o’r awyr.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, mae’r gwrthryfelwyr wedi closio at y brifddinas, gan gipio dinasoedd pwysig.