Anders Breivik
Mae llys wedi ymestyn yr hawl i gadw Anders Behring Breivik dan glo ar ei ben ei hun am bedair wythnos arall.

Mi laddodd y dyn o Norwy 77 o bobol mewn cyflafan erchyll ym mis Gorffennaf.

Bydd Breivik yn parhau i gael ei gadw ar wahân gan yr heddlu, yn rhannol oherwydd ofnau y bydd yn ymyrryd â thystiolaeth neu’n cysylltu gydag unrhyw rai sy’ o bosib yn cydweithio ag ef.

Mae eisoes wedi cyfaddef iddo ladd trwy fomio a saethu, ac mi allai wynebu 21 o flynyddoedd yn y carchar.