Syrthiodd mynegai cyfranddaliadau blaenllaw Llundain 4.5% heddiw wrth i fasnachwyr ofni fod y byd ar fin llithro i mewn i ddirwasgiad arall.
Mae rhai economegwyr yn credu fod dirwasgiad arall bellach yn anochel wedi i economïau’r Unol Daleithiau, Prydain a pharth yr ewro dyfu’n araf iawn dros y chwarter diwethaf.
Ar ben hynny, mae’r ffigyrau economaidd mis Gorffennaf yn awgrymu y gallai economïau rhai o wledydd cyfoethoga’r byd grebachu yn ail hanner y flwyddyn.
Collodd y FTSE 100 £62.3 biliwn o’i werth y bore ma, ac mae banciau RBS a Lloyds ymysg y rheini sydd wedi dioddef colledion trwm.
Roedd y marchnadoedd stoc wedi colli llawer iawn o’u gwerth bythefnos yn ôl ond wedi adennill rhywfaint o dir yr wythnos diwethaf.
Daw’r cwymp diweddaraf wedi i fanc Morgan Stanley gyhoeddi fod dirwasgiad arall yn fwy tebygol ac na fydd yr economi fyd-eang yn tyfu cymaint â’r disgwyl.
Ar ben y pryder am ddyled parth yr ewro a diffyg twf economaidd yn yr Unol Daleithiau mae yna hefyd ofnau ynglŷn â chyfraddau llog yn China.