Angela Merkel, Canghellor yr Almaen
Fe fyddai treth ar drafod arian yn arafu twf economaidd Prydain, rhybuddiodd grŵp busnes heddiw.

Cafodd y syniad ei wyntyllu gan Arlywydd Ffrainc a Changhellor yr Almaen wrth iddyn nhw gyfarfod ym Mharis ddoe.

Dywedodd Nicolas Sarkozy ac Angela Merkel mai nod y ‘dreth Twm Sion Cati’ (neu Robin Hood Tax) fyddai atal hapfasnachu wrth i bobol brynu a gwerthu cyfranddaliadau.

Rhybuddiodd y CBI y byddai’r dreth yn atal busnesau rhag tyfu drwy gynyddu costau, ac yn dargyfeirio buddsoddiad o Ynysoedd Prydain i goffrau’r Undeb Ewropeaidd.

Llithrodd gwerth marchnadoedd stoc Ewrop y bore ma wrth iddyn nhw ystyried y cynllun, ond maen nhw wedi codi eto erbyn hyn.

“Mae’n gamgymeriad ystyried cyflwyno treth ar drafod arian ar adeg pan ddylen ni fod yn canolbwyntio yn gyfan gwbl ar hybu twf,” meddai Dr Neil Bentley, cyfarwyddwr cyffredinol y CBI.

“Fe fydau treth yn arafu twf yn yr economi ac yn gwneud cael gafael ar arian i’w fuddsoddi yn fwy costus i fusnesau.

“Byddai busnes yn symud i Efrog Newydd a Hong Kong, a byddai hynny yn gwneud niwed i economi Prydain sy’n un o ganolfannau gwasanaethau ariannol mwya’r byd.

“Mae’n annhebygol chwaith y byddai yn codi unrhyw arian mawr yn y pen draw.”