Angela Merkel, Canghellor yr Almaen
Bydd arweinwyr yr Almaen a Ffrainc yn cwrdd heddiw er mwyn trafod sut i ddatrys yr argyfwng ariannol sydd wedi effeithio ar yr 17 gwlad ym mharth yr ewro.

Daw’r cyfarfod diwrnod ar ôl i Fanc Canolog Ewrop ddatgelu eu bod nhw wedi gwario rhagor o arian ar brynu bondiau llywodraethau’r parth er mwyn ceisio cadw’r marchnadoedd stoc yn sefydlog.

Daw’r cyfarfod rhwng Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, ac Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, ar ôl wythnos berw yn y marchnadoedd ariannol.

Argyfwng dyled Ewrop a’r pryder nad yw arweinwyr gwleidyddol yn gwneud digon i fynd i’r afael ag ef sy’n cael y rhan fwyaf o’r bai am y pryderon am yr economi yn fyd-eang.

Mae yna ofnau y bydd yr Eidal a Sbaen yn ei chael hi’n anodd talu eu dyledion er gwaethaf cynlluniau dadleuol i dorri eu diffygion ariannol.

Mae Ffrainc a’r Almaen yn gyfrifol am tua hanner o albwm economaidd Ewrop ond mae yna bryderon y gallen nhw fynd i drafferthion os oes rhai talu am achub y gwledydd eraill.

Mae Angela Merkel a Nicolas Sarkozy eisoes wedi gwrthod yr honiad eu bod nhw’n bwriadu trafod cyhoeddi bondiau fydd wedi eu gwarantu gan barth yr ewro yn ei gyfanrwydd.

Mae’r Eidal, Gwlad Groeg, Gwlad Belg a Lwcsembwrg eisoes wedi galw am y bondiau gan ddweud y byddai yn datrys yr argyfwng ariannol dros nos.

Ond mae’r Almaen wedi dweud fod angen i wledydd eraill Ewrop ddangos mwy o ddisgyblaeth ariannol.

Ond mae yna bryder cynyddol y gallai’r trafferthion ledu i Ffrainc a’r Almaen os nad ydynt yn cael eu datrys yn fuan.

Syrthiodd marchnadoedd stoc Ffrainc yn llym yr wythnos ddiwethaf ymysg ofnau am eu banciau ac y bydden nhw’n colli eu sgôr credit AAA.