Tokyo, Prifddinas Japan
Crebachodd economi Japan llai na’r disgwyl yn yr ail chwarter, wrth i’r wlad fynd i’r afael â’r dinistr achoswyd gan y daeargryn a’r tsunami yno.

Cyhoeddwyd heddiw fod Cynnyrch Domestig Gros wedi syrthio 1.3% rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf.

Roedd hynny’n llawer gwell na’r crebachiad 2.7% yr oedd economegwyr wedi ei ofni.

Roedd hefyd yn welliant ar yr ail chwarter pan grebachodd yr economi 3.6%, yn dilyn y tsunami.

Mae’r ffigyrau yn newyddion da i’r economi fyd-eang wrth i wledydd eraill datblygedig yng Ngogledd America ac Ewrop wynebu twf swrth.

Yn ystod yr un cyfnod tyfodd economi’r Unol Daleithiau 1.3%, tyfodd economi Prydain 0.2% ac roedd Cynnyrch Domestig Gros Ffrainc yn 0.0%.

Mae Llywodraeth Japan wedi buddsoddi llawer o arian yn y gwaith o ail-adeiladu yng ngogledd ddwyrain y wlad ac mae’n debyg fod hynny wedi bod yn hwb i’r economi.

Serch hynny syrthiodd allforion i’w lefel isaf mewn dwy flynedd, wrth i weithredoedd sawl cwmni ceir gael eu heffeithio gan y daeargryn.

Dim ond 0.1% ddisgynnodd gwario personol pobol y wlad, oedd yn well na’r cwymp o 0.5% yr oedd economegwyr yn ei ddisgwyl.

Dywedodd Gweinidog Cyllidol y wlad, Kaoru Yosano, ei fod yn disgwyl i’r economi dyfu “yn weddol gyflym” am weddill y flwyddyn.

Dywedodd pennaeth economaidd cwmni Mizuho Securities, Yasunari Ueno, y bydd yna adferiad yn y trydydd chwarter.

“Bydd data mis Gorffennaf i fis Medi yn dangos twf cyflymach, gan adlewyrchu adferiad mewn prynu ac allforion,” meddai.