Jerwsalem
Mae gweinidog cartref Israel wedi rhoi sêl bendith i gynllun i godi 1,600 o dai mewn ardal yn nwyrain Jerwsalem – gyda chynlluniau i godi 2,700 arall ar y gweill.

Mae’r cyhoeddiad yn dân ar groen y Palestiniaid, sy’n gobeithio y bydd Jerwsalem yn brifddinas i’w gwladwriaeth annibynnol nhw eu hunain yn y dyfodol.

Ond wrth amddiffyn y penderfyniad heddiw, dywedodd llefarydd ar ran gweinidog cartref Israel, Roi Lachamanovich, fod y cynlluniau yn angenrheidiol er mwyn datrys y problemau diffyg tai yn y ddinas.

“Mae angen gwneud rhywbeth o hyd,” meddai.

Mae hi’n annhebygol y bydd y gwaith adeiladu yn mynd rhagddo am sawl blwyddyn arall.

Ond mae penderfyniad Israel i ddatblygu ymhellach yn nwyrain Jerwsalem, yn ogystal â’r Lan Orllewinol, wedi gwaethygu’r berthynas ymhellach rhyngddyn nhw a’r Palestiniaid.

Mae’r Palestiniaid yn gwrthod trafod â llywodraeth Benjamin Netanyahu tra bod y cynlluniau i adeiladu ar y Lan Orllewinol ac yn nwyrain Jerwsalem yn parhau.

Mae’r Palestiniaid yn ystyried y trio yn rhan o’r wladwriaeth annibynnol y maen nhw’n gobeithio ei sefydlu yn y dyfodol.

Yn gefndir i hyn y mae’r ddadl hir ynglŷn â phwy sydd â’r hawl dros Jerwsalem.

Ym 1967, fe gipiwyd y ddinas sanctaidd gan Israel oddi wrth Jordan, ac mae Israel yn ystyried y wlad yn rhan o’u tiriogaeth nhw – gyda llawer o gymunedau Iddewig bellach wedi ymgartrefu yno.

Ond mae’r gymuned ryngwladol wedi gwrthod hawl honedig Israel dros y ddinas, ac maen nhw’n ystyried yr adeiladu yn Jerwsalem yr un mor anghyfreithlon â’r setliadau ar y Lan Orllewinol.

Ers 1967, mae 500,000 o Iddewon wedi ymgartrefi yn nwyrain Jerwsalem a’r Lan Orllewinol.

Ar ôl tair blynedd o drafodaethau rhwystredig ag Israel, mae’r Palestiniaid bellach yn bwriadu troi at y Cenhedloedd Unedig yn y gobaith y byddwn nhw’n cydnabod eu gwladwriaeth.