Arth wen
Bydd criw o wersyllwyr, oedd yng nghwmni llanc 17 gafodd ei ladd gan arth wen, yn dychwelyd i Brydain heddiw.

Mae dau arall oedd wedi eu hanafu gan yr arth – Patrick Flinders a Scott Bennell-Smith – eisoes wedi cael eu hedfan yn ôl i Brydain a’u trosglwyddo i’r ysbyty.

Roedd y ddau yn rhannu pabell â Horatio Chapple, 17, a gafodd ei ladd ddydd Gwener pan ymosododd yr arth wen arno.

Mae Patrick Flinders o Jersi yn cael ei alw’n arwr, wedi iddo lwyddo i yrru’r arth wen oddi wrtho drwy ei daro ar ei drwyn.

Roedd yr arth wedi cael gafael ym mhen y bachgen 16 oed am gyfnod, ac mae eisoes wedi derbyn peth triniaeth er mwyn tynnu darnau o ddannedd yr arth o’i ben.

Mae Scott Bennell-Smith o Gernyw hefyd wedi derbyn peth triniaeth cyn cael ei hedfan yn ôl i Brydain ddoe, ar ôl iddo golli rhai dannedd a thorri ei ên.

Bydd dau aelod arall o’r criw – yr arweinydd Michael Reid, 29, oedd yn arwain y daith ac a saethodd yr arth, a’i gyd-arweinydd Andy Ruck, 27 – yn dychwelyd pan fydd meddygon yn caniatáu iddynt hedfan.

Roedd y bechgyn yn rhan o grŵp oedd yn teithio gyda Chymdeithas Fforio Ysgolion Prydeinig, ac yn gwersylla ar rewlif Von Postbreen ar ynys Svalbard, yng ngogledd Norwy, pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Dydd Sadwrn, fe gyhoeddodd y Gymdeithas Fforio eu bod yn dod â’r daith £3,000-y-pen i ben, ar gyngor awdurdodau Svalbard.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r digwyddiad.