Anders Breivik
Dywed un o erlynwyr y dyn sydd wedi cyfaddef lladd 77 o bobl yn Norwy ei fod yn bryderus ei fod yn celu gwybodaeth a allai ddangos os pobl eraill yn cydweithio ag ef.

Mae Anders Behring Breivik wedi cyfaddef cyflawni’r gyflafan ar 22 Gorffennaf mewn gwersyll ieuenctid lle saethodd 69 o bobl yn farw, ac am osod bom car yn Oslo oriau ynghynt a lladd wyth.

Mewn maniffesto a gyhoeddodd ychydig cyn yr ymosodiadau, collfarnodd Breivik lywodraeth asgell chwith Norwy a’i goddefgarwch at fewnfudiad Mwslimaidd, a dywedodd ei fod mewn cysylltiad ag eithafwyr mewn lleoedd eraill.

“Rydyn ni’n dal i gredu ei fod ar ei ben ei hun, ond allwn ni ddim bod yn sicr o hynny. Mae’n dal rhywfaint o wybodaeth yn ôl, ac mae hynny’n ein pryderu ni,” meddai’r erlynydd Christian Hatlo.

Dywedodd hefyd fod Breivik wedi cael ei holi am ei deithiau i 10 o wledydd eraill ac am yr offer a brynodd ar gyfer yr ymosodiadau. Roedd wedi gwrthod dweud dim ynghylch hyn.