Arlywydd Syria
Lladdodd lluoedd arfog Syria 24 o bobol ar ddiwrnod cyntaf mis sanctaidd Ramadan, honnodd grŵp hawliau dynol heddiw.

Dywedodd Arsyllfa Hawliau Dynol Syria, sydd a’i ganolfan yn Llundain, fod y rhan fwyaf o’r marwolaethau yn ninas Hama, sydd wedi ei dargedu gan y fyddin ers dydd Sul.

Cynyddodd y protestiadau ddoe wrth i Fwslemiaid ymprydio yn ystod y dydd ar ddiwrnod cyntaf Ramadan.

Roedd y marwolaethau yn cynnwys 10 person yn Hama, chwech ym maestref Arbeen yn Damascus, a tri yn rhanbarth Homs.

Cafodd dau eu lladd yn nhref ddwyreiniol al-Boukamal, dau yn ninas arfordirol Latakia ac un yn Maadamiyah, ger Damascus.

Mae tua 1,700 o ddinasyddion wedi eu lladd ers i’r protestiadau ddechrau ym mis Mawrth, yn ôl grwpiau hawliau dynol.

Mae gweinyddiaeth Syria yn anghytuno â’r cyfanswm hwnnw ac yn beio gwledydd tramor am ysgogi’r aflonyddwch yno.

Maen nhw’n honni mae eithafwyr crefyddol yn hytrach na phobol sydd wir eisiau diwygiadau democrataidd sydd y tu ôl i’r protestiadau.