Mosgow yn y nos
Mae cwch gorlawn wedi boddi ym Mosgow ar ôl damwain yn oriau mân heddiw, gan ladd naw o’r 16 o bobol ar ei bwrdd.  

Fe lwyddodd y saith person arall i nofio i ddiogelwch, neu gael eu hachub.

Mae llefarydd ar ran yr awdurdod sy’n arwain yr ymchwiliad i’r digwyddiad, wedi rhoi’r bai yn sgwâr ar ysgwyddau perchennog a chapten y cwch, a oedd hefyd ymhlith y rhai a laddwyd wrth i’r cwch daro i mewn i gwch camlas.

Roedd y capten a’r perchennog, Gennady Zinger, wedi ei gael yn euog deirgwaith yn y gorffennol o gario gormod o bobol yn ei gwch. Dim ond lle i 12 o bobol oedd yn y bad.