Mynyddoedd Sbaen
Mae rhybuddion heddiw y gallai sefyllfa credyd Sbaen gael ei diraddio dros y tri mis nesaf oherwydd diffyg gwelliant yn yr economi, a’r pwysau cynyddol am gyllid.

Mewn datganiad, dywedodd yr asiantaeth sy’n amcangyfrif cyfradd credyd gwlad, Moody’s, y byddai’r wlad ond yn disgyn o Aa2 i Aa3 – sef un safle – oni bai bod “datblygiad annisgwyl” yn economi’r wlad.

 Dywedodd yr asiantaeth fod y pwysau cyllido ar Sbaen yn debygol o gynyddu ar ôl pecyn achub Groeg yr wythnos diwethaf, sydd wedi gosod “cynsail” ar gyfer tynnu’r sector breifat i mewn i’r mater.

 Yn ôl Moody’s, mae ail becyn achubiaeth Groeg wedi dangos “newid amlwg yn y risg i’r rhai sy’n dal y bondiau, o wledydd sydd â baich dyled dwys neu ddiffygion mawr yn eu cyllidebau.”

 Mae economi Sbaen wedi bod yn dioddef ers I’r farchnad adeiladu chwalu, ac mae diwethidra cenedlaethol y wlad yn parhau dros 20%.

 Er nad yw lefel eu dyledion mor fawr â Groeg, mae gan Sbaen ddiffygion mawr yn eu cyllideb, sy’n dibynnu ar y farchnad bondiau i’w lenwi – ac mae cost benthyca’r wlad wedi bod yn codi yn ystod y dyddiau diwethaf.

 Mae Moody’s eisoes wedi gostwng statws credyd chwech ardal o Sbaen heddiw, gan gynnwys Catalunya a Castilla-La Mancha. Mae Gwlad y Basg a Galicia hefyd dan ystyriaeth ar hyn o bryd.