Pafiliwn Pinc yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam
 Mae’n addo bod yn braf a hafaidd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, er bod y dynion tywydd yn rhagweld ambell i gawod.

Yn dilyn mis o dywydd siomedig, mae’r rhagolygon yn addawol ar gyfer yr wythnos i ddod gyda’r tymheredd yn codi i 25 selsiws.

Gall tywydd braf ddenu mwy i fwynhau arlwy’r Eisteddfod Genedlaethol, ac fel arfer mae gwynt a glaw yn golygu llai yn mynychu a’r coffrau’n crebachu.

Ar drothwy’r ŵyl, mi fydd y newyddion bod tywydd braf ar ei ffordd yn galondid i drefnwyr yr Eisteddfod.

Bydd sawl cwr o Ynysoedd Prydain yn mwynhau’r tywydd poeth, ond mae haul hollbrersennol yn annhebygol.

Cynhesach

“Mae’n edrych fel y bydd dydd Sadwrn yma yn braf yn y rhan fwyaf o lefydd, gyda’r tymheredd yn 22C yn ne Lloegr,” meddai Claire Austin o adran dywydd asiantaeth newyddion y Press Association.

“Fe fydd ambell gawod yng Nghymru a de-orllewin Lloegr.

“Nid yw’r tywydd am fod yn sych a sefydlog. Mi fydd yna ryw gymaint o law o gwmpas, ond mae hi am fod yn llawer cynhesach nag y bu yn ddiweddar.”