Mae ffrwydrad nerthol wedi ysgwyd pwll glo yn nwyrain yr Wcrain heddiw, gan ladd 16 o weithwyr.

Cafodd dau o weithwyr eu cludo i’r ysbyty yn dioddef o losgiadau, tra bod swyddogion argyfwng yn ceisio dod o hyd i 10 mwynwr arall oedd yn gweithio yn ardal y ffrwydrad.

Digwyddodd y ffrwydrad 915 metr o dan ddaear, ym mhwll Suhodilsk-Ddwyreiniol yn ardal Luhansk, am ddau y bore.

Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y ffrwydrad, ac mae ymchwilwyr yn gweithio yn y pwll i ddarganfod yr achos.

Mae pyllau glo yr Wcrain ymhlith y rhai peryclaf yn y byd oherwydd yr adnoddau hen ffasiwn a’r safonau diogelwchgwael.