Mae Llywodraeth San Steffan wedi condemnio’r ffrwydrad “erchyll” yn Oslo sydd wedi lladd o leiaf dau o bobol.

Mae yna ofnau bod o leiaf saith o bobol wedi marw yn dilyn yr ymosodiad terfysgol, a hyd at 20 wedi eu saethu yn farw mewn ymosodiad ar wahan ar gyrion y brifddinas.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, William Hague, fod Ynysoedd Prydain yn sefyll “ysgwydd wrth ysgwydd” gyda Norwy.

Cafodd swyddfa’r Prif Weinidog ei ddifrodi yn ddifrifol gan yr ymosodiad ynghanol Oslo.

Mae yna adroddiadau fod un person wedi ei arestio ar ôl i saethwr ymosod ar wersyll pobol ifanc Plaid Lafur Norwy yn fuan wedi’r ffrwydrad ynghanol y brifddinas.

Daw datganiad William Hague wrth i ddiplomyddion geisio darganfod a oes dinasyddion o Brydain wedi eu dal ynghanol y trychineb.

“Rydw i’n cydymdeimlo â’r rheini sydd wedi colli perthnasau neu wedi eu hanafu yn y ffrwydrad erchyll yn Oslo heddiw,” meddai.

“Mae ein Llysgenhadaeth yn barod i ddarparu cymorth ar gyfer unrhyw un o Brydain sydd wedi dioddef yn sgil yr ymosodiad.

“Rydyn ni’n beirniadu pob ymosodiad terfysgol. Mae Ynysoedd Prydain yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â Norwy a’n cynghreiriaid rhyngwladol eraill yn wyneb erchyllterau o’r fath.

“Rydyn ni’n ymroddedig i weithio’n ddiflin â nhw er mwyn mynd i’r afael â bygythiad terfysgaeth.”