Y Llys Apel
Mae’n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus i ymddygiad milwyr gwledydd Prydain yn Irac, meddai bargyfreithiwr wrth y Llys Apêl.
Fel yn achos y cyfryngau, enwogion a’r heddlu, roedd yna rai pethau’n ddigon difrifol i “fynnu” cael ymchwiliad annibynnol, meddai Michael Fordham QC.
Pobol gyffredin
Mae’n cynrychioli criw o bobol gyffredin o Irac sy’n honni eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan filwyr Prydeinig.
Mae mwy na 100 ohonyn nhw’n apelio’n erbyn penderfyniad yr Uchel Lys ym mis Rhagfyr yn erbyn cynnal ymchwiliad.
Dim ond ymchwiliad llawn a fyddai’n cwrdd â chyfrifoldeb yr Ysgrifennydd Amddiffyn i gynnal ymchwiliadau annibynnol ac effeithiol i gwynion o gam-drin.
Roedd dau farnwr yn yr Uchel Lys wedi penderfynu bod ymchwiliadau eraill sydd eisoes ar droed yn ddigonol.
‘Enghreifftiau credadwy’
Yn ôl Michael Fordham, mae yna enghreifftiau credadwy o weithgareddau creulon ac annynol gan filwyr Prydeinig mewn canolfannau milwrol Prydeinig rhwng mis Ebrill 2003 a mis Rhagfyr 2008.
Mae disgwyl i’r apêl barhau am dridiau.