Bashar Assad - rho'r gorau i ddal gafael mewn grym, meddai dwy gynhadledd
Mae gwrthwynebwyr arlywydd Syria wedi galw arno i roi’r gorau i ddal gafael mewn grym.

Mae dyddiau cyfundrefn Bashar Assad drosodd, meddai dau gyfarfod a gynhaliwyd yn ninas Damascus ac yn Nhwrci heddiw, wrth iddyn nhw chwilio am ffordd ymlaen heddychlon i’r wlad.

Mae tua 400 o bobol yn cymryd rhan yn y Gynhadledd Achub Genedlaethol yn Istanbul.

Yno, fe ddywedodd arweinydd yr wrthblaid yn Syria, Mashaal Tammo, fod cynhadledd fawr debyg a oedd yn cael ei chynnal yn Namascus wedi ei chanslo ar y funud ola’ wedi i filwyr Assad saethu i gyfeiriad protestwyr nos Wener, gan ladd o leia’ 28 o bobol.

Er hynny, fe fu criw bychan yn cyfarfod mewn lleoliad cudd yn y ddinas, ac mewn cyswllt ffôn gyda’r gynhadledd yn Istanbul.

Un o drefnwyr y ddwy gynhadledd ar y cyd ydi Haitham al-Maleh, cyfreithiwr 80 mlwydd oed sy’n gwrthwynebu Assad ac sydd wedi treulio blynyddoedd dan glo yn Syria fel carcharor gwleidyddol. Mae wedi gadael Syria yn ddiweddar, oherwydd ei fod ofn am ei fywyd.

Wrth annerch y gynhadledd heddiw, dywedodd bod cyfundrefn Bashar Assad yn un “Ffasgaidd”, a chanmolodd “bobol arwrol Syria” am godi yn erbyn y drefn honno.

“Roedd y gyfundrefn wedi herwgipio’r wladwriaeth gyfan, ond rydan ni eisiau hawlio’r wladwriaeth yn ei hôl,” meddai. “All y gyfundrefn ddim dwyn oddi arnom ni ein rhyddid.”