Milwyr yn Affganistan
Mae gwr wedi’i wisgo yn iwnifform byddin Affganistan, wedi lladd aelod o luoedd NATO yn ne’r wlad.

Mae’r cynghreiriaid wedi cadarnhau fod y gwr wedi rhedeg ymaith yn syth ar ôl saethu’r milwr, ac mae’n dal i fod ar goll.

Dydi hi ddim yn glir eto p’un ai oedd y saethwr yn aelod o Fyddin Genedlaethol Affganistan, ynteu ai gwisgo’r iwnifform er mwyn cuddio ei wir identi oedd o.