Irac - bomwyr yn ceisio ail-ddechrau brwydrau bychain
Mae bom wedi ei chuddio mewn cerbyd rickshaw wedi lladd dau bererin yn Irac. Cafodd 26 o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad i’r de o’r brifddinas, Baghdad.

Ffrwydrodd y bom yn gynnar fore heddiw tra’r oedd y cerbyd tair-olwyn yn aros am gymudwyr ger dinas sanctaidd Karbala. Mae meddyg yn y ddinas wedi cadarnhau nifer y bobol gafodd eu lladd a’u hanafu.

Mae pereriniodd Shiite ar hyn o bryd yn dathlu pen-blwydd Mohammed al-Mahdi, y deuddegfed imam, a ddiflannodd yn y 9fed ganrif.

Mae dinas Karbala rhyw 55 milltir i’r de o Baghdad.