Manaus, Brasil
Mae corff myfyriwr o Brydain a aeth ar goll yn jyngl yr Amazon, wedi cael ei ddarganfod ym Mrasil.
Fe ddiflannodd Olakunle Teniola, 20 oed, ar ôl neidio i mewn i lyn gyda ffrind ddydd Mawrth. Dim ond ei ffrind ddaeth allan o’r dwr yn ddiogel, ac fe ddaethpwyd o hyd i gorff y myfyriwr o Brifysgol Coventry ddoe.
“Gallwn gadarnhau marwolaeth dinesydd Prydeinig yn Manaus, Brasil, ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 12,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.
“Rydan ni’n cadw mewn cysylltiad ac yn cynorthwyo ei deulu ar yr adeg anodd hwn.”