Mumbai
Mae awdurdodau India wedi galw am gyfarfod diogelwch brys heddiw er mwyn ymchwilio i dri ffrwydrad laddodd o leiaf 21 o bobol ac anafu 141 yn Mumbai brynhawn ddoe.
Dyma’r ymosodiad terfysgol mwyaf o’i fath ers y gwarchae tri diwrnod laddodd 164 o bobol ym mis Tachwedd 2008.
Roedd tri ffrwydrad wedi rhwygo siopau a gorsaf fws yn ddarnau, a gadael cyrff gwaedlyd wedi eu gwasgaru yn y mwd yn strydoedd gorlawn y ddinas.
Mae rhai o drigolion y ddinas yn anhapus na lwyddodd y llywodraeth i atal y cynllwyn, er gwaethaf mesurau diogelwch llym gyflwynwyd yn sgil yr ymosodiadau tair blynedd yn ôl.
“Ar ôl ffrwydrad 2008 a’r holl son yn y cyfryngau am ddiogelwch roedden ni’n meddwl ein bod ni’n saff,” meddai Anita Ramaswami, cyfrifydd 33 oed.
“Ond mae pethau’n parhau’r un fath ac rydyn ni’n teimlo’n agored i niwed o hyd.”
Bom mewn ymbarél
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ddoe, ddaeth misoedd yn unig ar ôl i India a Phacistan ail ddechrau trafodaethau heddwch.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu, Arup Patnaik, fod y terfysgwyr wedi cuddio ffrwydron mewn ymbarél ym marchnad Jhaveri Bazaar a char yn ardal y Tŷ Opera.
Roedd y trydydd bom yn ardal Dadar wedi ei guddio mewn mesurydd trydanol mewn gorsaf fysiau.
Digwyddodd yr ymosodiadau am 6.54pm, 6.55pm a 7.05pm.
Beirniadodd y Prif Weinidog Manmohan Singh y ffrwydradau a galw ar bobol Mumbai i “beidio â chynhyrfu a dangos ein bod ni’n bobol unedig”.