Dyn yn rhedeg gan chwilio baner De Sudan i ddathlu annibyniaeth y wlad (AP Photo/Andrew Burton)
Mae miloedd wedi bod yn dathlu wrth i wladwriaeth newydd De Sudan godi ei baner i gyhoeddi ei hannibyniaeth heddiw.

Mewn seremoni yn y brifddinas Juba, darllenwyd datganiad o annibyniaeth gan lefarydd y senedd, wrth i faner Sudan gael ei gostwng a baner newydd De Sudan yn cael ei chodi yn ei lle.

Roedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-moon, ac Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, ymysg y dwsinau o arweinwyr tramor yn cael eu croesawu i’r seremoni gan arlywydd y wlad newydd, Salva Kiir.

Mae disgwyl y bydd yn cael ei chydnabod fel 193fed aelod y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf. Hi fydd 54fed aelod y Cenhedloedd Unedig yn Affrica.

Roedd gorfoledd mawr i’w deimlo ymhlith y miloedd a oedd yn dathlu ar strydoedd Juba.

“Mae hwn yn ddiwrnod mawr i mi oherwydd mae’n ddiwrnod sy’n adlewyrchu holl ddioddefaint y deheuwyr ers bron i 50 mlynedd,” meddai David Aleu, myfyriwr meddygol 24 oed.

Mae llwythau Affricanaidd du De Sudan wedi bod yn ymladd rhyfeloedd cartref yn erbyn y gogledd, sy’n bennaf Arabaidd, dros ran helaeth o’r 50 mlynedd diwethaf, ac fe fu farw tua dwy filiwn yn y rhyfel diweddaraf o 1983 i 2005. Y cytundeb heddwch yn 2005 sydd wedi arwain at yr annibyniaeth sy’n cael ei ddathlu heddiw.

Er bod heddiw’n ddiwrnod o ddathlu, mae her fawr yn wynebu llywodraeth y wlad newydd o 8 miliwn o drigolion.

Mae hi’n un o’r gwledydd tlotaf yn y byd, ac mae problemau o hyd i’w datrys o safbwynt y berthynas rhyngddi a gogledd Sudan.

Llongyfarch

Wrth annerch y seremoni, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod Prydain yn llongyfarch De Sudan ac yn ymfalchïo mewn bod ymysg y gwledydd cyntaf i gydnabod y wlad newydd.

“Mae heddiw’n cynrychioli buddugoliaeth trafodaethau heddychlon dros wrthdaro a thrallod, ac mae’n foment o obaith ac optimistiaeth at y dyfodol,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at weld De Sudan yn cymryd ei lle fel aelod llawn o’r Cenhedloedd Unedig.”