Mae milwr Prydeinig wedi mynd ar goll o’i ganolfan yn ne Afghanistan.
Mae’r fyddin yn chwilio amdano ymysg adroddiadau ei fod wedi ei ladd ar ôl cael ei gipio gan y Taliban.
Diflannodd y milwr yn oriau mân y bore heddiw yn Rhanbarth Helmand, yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Honnodd y Taliban eu bod nhw wedi cipio’r milwr yn ystod brwydr â milwyr tramor yn ardal Babaji, a’i fod wedi marw yn fuan wedyn.
Dywedodd Nato nad oedd unrhyw adroddiadau ynglŷn â brwydr yn yr ardal.
Mae’r Taliban yn aml yn cyhoeddi negeseuon nas profwyd yn honni eu bod nhw wedi ennill brwydrau yn erbyn milwyr tramor.
Nofio
Mae adroddiadau fod y milwr sydd ar goll wedi mynd i nofio â milwyr Afghanistan cyn diflannu.
Deallir bod y fyddin yn chwilio amdano ar y tir ac o’r awyr.
“Mae milwr Prydeinig ar goll yn Afghanistan,” meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn mewn datganiad. “Rydyn ni’n ceisio dod o hyd iddo.
“Diflannodd yr unigolyn yn ardal Helmand yn oriau mân y bore.
“Mae ei deulu wedi cael gwybod ac fe fyddwn ni yn eu diweddaru wrth i’r gwaith o ddod o hyd iddo barhau.”