Mae o leiaf 10 o bobol wedi marw ar ôl ymosodiad gyda’r nos ar westy yn Kabul.
Dywedodd Pennaeth Heddlu Kabul, Mohammad Ayub Salangi, fod 10 person – y rhan fwyaf yn weithwyr yn y gwesty – wedi marw.
Ymosododd tua wyth o wrthryfelwyr y Taliban ar westy’r Inter-Continental yn hwyr neithiwr a brwydro yn erbyn gweithwyr diogelwch yno am bedair awr.
Dywedodd Mohammad Ayub Salangi fod un, a oedd wedi ei anafu, wedi llwyddo i ffrwydro ei hun yn un o ystafelloedd gwely’r gwesty.
Llwyddodd un o hofrenyddion Nato i ladd tri o wrthryfelwyr y Taliban ar do’r adeilad.
Daw’r ymosodiad cyn cynhadledd ar drosglwyddo diogelwch o luoedd arfog tramor i Afghanistan erbyn diwedd 2014.
Roedd rhaid o westeion y gynhadledd yn aros yn y gwesty, ond doedd dim anafiadau yn eu plith nhw.