Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ladrad o fan diogelwch yn archfarchnad Tesco y Trallwng wedi dweud eu bod nhw’n chwilio am ddau gar.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod lladron wedi targedu’r fan oedd yn cario arian parod tua 11.46pm ddydd Llun.

Mae ditectifs yn chwilio am bedwar person yn dilyn yr ymosodiad ar gwmni diogelwch cerbydau G4S. Y gred ar hyn o bryd yw na ddefnyddwyd unrhyw arfau.

Mae’r heddlu yn credu fod dau gar wedi chwarae rhan yn y lladrad. Mae’r cyntaf yn Mercedes C180 coupe glas, sydd â’r rhif cofrestru YE51 YBY.

Daethpwyd o hyd iddo yn ddiweddarach yn ardal Buttington y Trallwng.

Mae’r cerbyd arall yn Audi S4 Quattro du, sydd â’r rhif cofrestru RY54 SZX.

Dylai unrhyw un a welodd y lladrad, neu’r ceir, neu sydd â unrhyw wybodaeth arall ffonio Heddlu Dyfed-Powys ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddi-enw ar 0800 555111.