Senedd Gwlad Groeg
Saethodd heddlu arfog nwy dagrau at bobol ifanc oedd yn taflu cerrig yn Athens heddiw, wrth geisio tawelu protestiadau yno.

Daw’r gwrthdaro yng Ngwlad Groeg ar ddechrau streic gyffredinol deuddydd o hyd gan undebau sydd wedi eu cynddeiriogi gan doriadau a threthi arfaethedig llywodraeth y wlad.

Rhwygodd protestwyr cerrig palmant a rhoi biniau sbwriel ar dân ynghanol y brifddinas.

Yn gynharach roedd  tua 20,000 o bobol Athens wedi gorymdeithio mewn dau brotest ar wahân, wrth i 7,000 arall brotestio yn ninas ogleddol Thessaloniki.

Roedd pawb o ddoctoriaid i yrwyr ambiwlansiau i weithwyr casino a hyd yn oed actorion wedi ymuno â’r streic neu yn gwrthod gweithio am sawl awr er mwyn mynegi eu hanfodlonrwydd.

Cafodd cannoedd o deithiau awyrennau eu canslo neu eu symud wrth i reolwyr traffig awyr wrthod gweithio. Doedd dim son am drafnidiaeth gyhoeddus yn y brifddinas, ac roedd brotestwyr wedi creu blocâd ym mhorthladd Piraeus.

“Mae’r llywodraeth wedi datgan rhyfel yn ein herbyn ni ac rydyn ni’n ymateb gydag ein rhyfel ein hunain,” meddai Spyros Linardopoulos, protestiwr ag undeb PAME.

Y cefndir

Daw’r streiciau wrth i Aelodau Seneddol Gwlad Groeg drafod a ydyn nhw’n bwriadu bwrw ymlaen â thoriadau llym i wariant cyhoeddus.

Os nad ydyn nhw’n cytuno i’r toriadau ni fydd y wlad yn cael y benthyciad gan y gymuned ryngwladol sydd ei angen arnynt er mwyn osgoi methdalu.

Mae disgwyl y bydd Senedd y wlad yn pleidleisio ar y mesurau hynod amhoblogaidd yfory neu ddydd Iau.

Rhaid eu dilysu neu ni fydd yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Arian Ryngwladol yn rhyddhau’r benthyciad €12 biliwn nesaf.

Os nad yw hynny’n digwydd bydd Gwlad Groeg yn methdalu ynghanol mis Gorffennaf.