Michele Bachmann
Mae’r Gyngreswraig Gweriniaethol, Michele Bachmann, wedi dechrau ei hymgyrch ar gyfer etholiad arlywyddol 2012 yn Iowa.

Mae yn gobeithio y bydd canlyniad da yn yr etholiad i ddewis ymgeisydd yno yn cadarnhau mai hi yw un o’r ceffylau blaen i herio’r Arlywydd Barack Obama y flwyddyn nesaf.

Mae Michele Bachmann yn gyngreswraig yn Minnestota dros y ffin ond cafodd ei geni yn Waterloo, Iowa, a penderfynodd gyhoeddi ei bod hi’n bwriadu sefyll yn y ddinas honno.

Iowa fydd yn cynnal yr etholiad cyntaf i ddewis cynrychiolydd y Gweriniaethwr, a bydd dechrau da yn hanfodol i obeithion yr ymgeiswyr gwahanol.

Mae Michele Bachmann yn boblogaidd ymysg Gweriniaethwyr Cristnogol a mudiad y ‘tea party’ a ddylai sicrhau fod ganddi gefnogaeth frwd yn y dalaith.

Roedd pôl piniwn gan bapur newydd Des Moines Register ddydd Sadwrn yn awgrymu fod Michele Bachmann yr un mor boblogaidd â’i phrif wrthwynebydd, cyn-Lywodreathwr Massachusetts, Mitt Romney.

Mae Mitt Romney yn gobeithio y bydd etholiad cynnar New Hampshire yn rhoi’r un hwb iddo af ag y mae disgwyl y bydd Michele Bachmann yn ei gael yn Iowa.

Ond dywedodd Michele Bachmann y bydd hi’n gallu ymestyn y tu hwnt i’w chefnogaeth graidd a gwneud argraff ar Americanwyr cymedrol.

“Mae’r rhyddfrydwyr eisiau i chi feddwl fod mudiad y tea party yn cynrychioli adain dde’r Blaid Weriniaethol yn unig,” meddai. “Dyw hynny ddim yn wir o gwbl.”