Croes ar yr Alpau
Mae cerddwr wedi dod o hyd i chwe chorff ar fynydd yn rhanbarth Hautes-Alpes Ffrainc.

Y gred yw eu bod nhw i gyd wedi eu lladd yn ystod damwain ddoe.

Daethpwyd o hyd i’r cyrff 8,858 troedfedd i fyny mynydd heddiw ar ôl i’r dringwyr geisio dringo’r mynydd ddoe, meddai heddlu Briancon.

Roedd y chwech wedi ceisio dringo, ar ddwy raff, i fan 11,857 troedfedd i fyny’r Massif des Ecrins.

Dywedodd swyddfa maer y pentref Villar-d’Arene fod hofrennydd wedi cludo’r cyrff i neuadd y dref er mwyn iddynt gael eu hadnabod.

Does dim manylion pellach ynglŷn â’r marwolaethau ar hyn o bryd.