George Papandreou
Mae aelodau o undebau llafur yn gorymdeithio trwy ganol dinas Athen heddiw, i brotestio yn erbyn y toriadau diweddara’ sydd wedi eu cyhoeddi gan lywodraeth y wlad er mwyn mynd i’r afael â’i dyled.

Mae protestiadau dyddiol, bron, wedi eu cynnal yng ngwlad Groeg yn erbyn y tynhau a’r torri mewn cyflogau a phensiynau.

Mae Groeg wedi ei tharo gan weithredu gwleidyddol ac ariannol yn ystod yr wythnos ddiwetha’, tros doriadau gwario a chodi trethi. Mae’r Prif Weinidog George Papandreou wedi rhoi’r sac i’w Weinidog Cyllid, ac wedi penodi ei brif wrthwynebydd o fewn y blaid, Evangelos Venizelos, yn ei le.

Fe fydd Venizelos yn dod wyneb yn wyneb â’i gyd-Weinidogion Cyllid mewn cyfarfod o weinidogion Ewrop fory (dydd Sul).