Un o gwn Eric Buckley
Mae gwr o Bontypridd wedi cael ei garcharu am dri mis am gam-drin llond ty o anifeiliaid.

Fe gafodd Eric Buckley, 56 oed, ei ddal ym meddiant dwsin o anifeiliaid gwahanol. Roedd swyddogion RSPCA, y gymdeithas er atal creulondeb i anifeiliaid, yn rhan o’r ymgyrch gyda Heddlu De Cymru, pan dorron nhw i mewn i’w gartre’ yn y Rhondda.

Fe gawson nhw eu dychryn i ganfod llond selar o anifeiliaid at eu pengliniau yn eu baw eu hunain.