Ty Gwyn Washington
Mae’n ymddangos bod awyrennau Nato wedi ymosod unwaith eto ar ganolfan y Cyrnol Gaddafi yn Libya.

Yn ôl adroddiadau o’r ardal, roedd dau ffrwydrad mawr wedi eu clywed yng nghanolfan Bab al-Aziziya, ond does dim gwybodaeth am y difrod.

Yn y cyfamser, mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi amddiffyn eu penderfyniad i gefnogi’r gweithredu milwrol heb ganiatâd y Gyngres.

Fe ddywedodd cynrychiolwyr Barack Obama nad oedden nhw’n credu bod angen caniatâd – fel rheol, mae’n rhaid cael cefnogaeth y Gyngres o fewn 60 niwrnod i fynd i ryfel.

Yn ôl y Tŷ Gwyn, cefnogi gwledydd eraill Nato y mae’r Unol Daleithiau heb gymryd rhan mewn ymladd cyson eu hunain.