Llys y Goron Caernarfon
Mae’r bwrdd sy’n gofalu am ddiogelwch plant yn dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad i achos babi bach a gafodd fethadone gan ei rhieni.

Ddoe, fe gafodd tad y plentyn, Graint Yuill o Borthmadog, ei garcharu am wyth mlynedd am roi’r cyffur i’w ferch fach, am gam-drin plentyn ac am wneud i’w mam ofni trais.

Mae mam y plentyn, Nia Wyn Jones o Gaernarfon, eisoes yn y carchar am ei cham-drin ond fe glywodd Llys y Goron Caernarfon mai Grant Yuill, sy’n 38 oed, oedd yn benna’ gyfrifol.

Fe fynegodd y barnwr ryfeddod hefyd oherwydd ei bod wedi cymryd saith mis cyn i weithwyr iechyd sylweddoli fod rhywbeth o’i le.

Yn awr mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Gwynedd a Môn wedi cadarnhau bod gwrandawiad eisoes wedi ei gynnal – mae’n ddyletswydd arnyn nhw wneud hynny “pan fo plentyn yn dioddef o anaf a allai fygwth ei fywyd neu amharu yn ddifrifol ac yn barhaol ar iechyd a’i ddatblygiad”.

Dyw canlyniadau’r ymchwiliad ddim wedi eu cyhoeddi.