Anders Fogh Rasmussenn (Fforwm Economaidd y Byd CCA 2.0)
Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, yn cynnal trafodaethau gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Anders Fogh Rasmussen heddiw yn sgil pryderon am fethiant y gymuned ryngwladol i ddod â’r gwrthdaro i ben.

Ond mae’r Llywodraeth yn dweud fod pennaeth y Llynges, y LLyngesydd Syr Mark Stanhope, wedi newid ei feddwl ar ôl rhybuddio y byddai’n rhaid gwneud “penderfyniadau anodd” pe bai ymgyrch Nato’n parhau tan yr hydref.

Bellach, mae’n ymddangos ei fod yn cytuno gyda phennaeth holl luoedd arfog Prydain, Syr David Richards, sydd wedi dweud ddoe bod modd cynnal yr ymgyrch yn Libya gyhyd ag y bo angen.

Mae yna adroddiadau mewn rhai papurau newydd fod Syr David Richards wedi rhybuddio Prif Weinidog Prydain cyn i’r ymgyrch filwrol ddechrau ar 19 Mawrth na fyddai cyrch bomio o’r awyr yn ddigon i gael gwared ag arweinydd y wlad, Muammar Gaddafi.

Mae Nato wedi parhau gyda bomio targedau yn y brifddinas Tripoli neithiwr tra bod taflenni wedi cael eu gollwng yn rhybuddio milwyr Cyrnol Gaddafi i roi’r gorau i ymladd.

Trafod Afghanistan hefyd

Bydd Anders Fogh Rasmussen yn trafod materion yn ymwneud â Libya gyda David Cameron a’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague, yn ogystal ag annerch cynulleidfa o arbenigwyr diogelwch.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Tramor drafod y sefyllfa yn Afghanistan hefyd cyn i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, gyhoeddi cynlluniau i leihau nifer y milwyr Americanaidd yn y wlad.