Prifysgol Aberystwyth - un o'r rhai sydd eisiau codi £9,000
Mae cynlluniau prifysgolion Cymru i godi £9,000 ar fyfyrwyr y flwyddyn nesa’ wedi cael eu gwrthod.
Fe gyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, bod y Cyngor Cyllido Addysg Uwch wedi edrych ar y ceisiadau ac wedi eu hanfon yn ôl at y prifysgolion a’r sefydliadau eraill sy’n cynnig addysg uwch.
Roedd hi’n hysbys bod nifer o’r prifysgolion wedi bwriadu codi’r uchafswm posib o £9,000 ond, yn ôl Leighton Andrews, doedd y ceisiadau ddim yn cwrdd â’r meini prawf oedd wedi eu gosod gan y Llywodraeth.
Roedd y rheiny’n cynnwys darpariaeth i wneud yn siŵr bod rhagor o fyfyrwyr o gefndiroedd di-fraint yn cael eu derbyn a bod y gwasanaeth i fyfyrwyr yn gwella.
‘Gwrthod’
“Ddydd Gwener, fe ysgrifennodd Prif Weithredwr y Cyngor Cyllido (HEFCW) at yr holl sefydliadau yn dweud wrthyn nhw y byddai’r ceisiadau, ar eu ffurf bresennol, yn cael eu gwrthod.”
Roedd yn mynnu bod Llywodraeth Cymru’n dilyn trefn fwy llym o bwyso a mesur ceisiadau ffioedd nag y mae’r Llywodraeth yn Llundain.