Mae cwmni archfa
Arwydd tesco Extra (Mankind CCA 2.0)
rchnadoedd mwya’ gwledydd Prydain wedi cadarnhau eu bod yn gwrthod gwerthu rhifyn o bapur lleol yn un o’u siopau yng Nghymru.

Mae hynny oherwydd stori sy’n honni bod un o oruchwylwyr y cwmni wedi bod yn ‘fflashio’ drwy ddangos ei bronnau i weithwyr ifanc yn ystod shifft nos.

Yn ôl y stori yn y Bangor Mail, roedd y gweithwyr yn anhapus am fod cwmni Tesco wedi methu â disgyblu’r wraig ganol oed yn eu siop Extra ar gyrion dinas Bangor.

Roedden nhw hefyd yn honni bod ei hundeb, USDAW, yn ei gwarchod ac, yn ôl y stori yn y Mail, roedden nhw’n ystyried streic answyddogol.

Fe gadarnhaodd un o weithwyr y siop wrth Golwg 360 bod y papur newydd wedi ei dynnu oddi ar y silffoedd ond roedd hi’n methu â chadarnhau’r rhesymau.

Hyd yma, dyw’r rheolwr ddim wedi cadw at addewid i ffonio’n ôl ond mae’r papur yn dyfynnu llefarydd sy’n dweud bod achos y wraig wedi ei drin yn fewnol a’i bod yn gwisgo fest adeg yr honiadau.