David Cameron
Fe fydd Prydain yn rhoi £814 miliwn ychwanegol tuag at frechu mwy na 80 miliwn o blant yn erbyn afiechydon gan gynnwys llid yr ysgyfaint a dolur rhydd.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, David Cameron, heddiw y bydd yr arian yn achub 1.4 miliwn o fywydau yn y trydydd byd dros y pum mlynedd nesaf.

Roedd yn siarad yng nghynhadledd y Cynghrair Byd-eang am Frechiadau ac Imiwneiddiad yn Llundain, ble’r oedd arweinwyr byd, elusennau a chwmnïau preifat, gan gynnwys Bill Gates o Microsoft, yn trafod sut i ddiogelu plant rhag afiechydon marwol.

“Fe fydd Prydain yn chwarae rhan flaenllaw,” meddai David Cameron wrth y gynhadledd.

“Yn ogystal â’n cefnogaeth bresennol i’r gynghrair, fe fyddwn ni’n darparu £814 miliwn o fuddsoddiad newydd nes 2015.

“Fe fydd hynny o gymorth wrth frechu dros 80 miliwn o blant ac arbed 1.4 miliwn o fywydau.

“Mae hynny’n un plentyn wedi ei frechu bob dau eiliad am bum mlynedd. Bydd bywyd plentyn yn cael ei achub bod dau funud.

“Dyna fydd yr arian sy’n cael ei fuddsoddi gan drethdalwyr Prydain yn ei gyflawni.”

Diffyg

Cyfaddefodd fod ei benderfyniad yn un “dadleuol” ar adeg pan oedd ei weinyddiaeth yn torri’n ôl ar wariant cyhoeddus ym Mhrydain.

“Mae rhaid pobol yn mynnu nad ydyn ni’n gallu fforddio gwario rhagor ar gymorth dyngarol ar hyn o bryd, ac y dylen ni roi trefn ar ein cartref ein hunain cyn ymyrryd ym mhroblemau pobol eraill,” meddai.

“Ond rydw i’n credu fod achos moesol cryf dros roi cymorth i bobol dlotaf y byd, hyd yn oed pan ydyn ni’n wynebu her gartref.”