Y Pab Benedict XVI
Am y tro cyntaf yn hanes yr Eglwys Gatholig, mae’r Pab wedi cynnal gwasanaeth arbennig i Sipsiwn yn y Fatican heddiw.

Fe ddaeth tua 2,000 o Sipsiwn Catholig i’r Fatican i wrando ar y Pab Benedict XVI yn collfarnu eu dioddefaint o dan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yn galw ar Ewrop i wneud iawn am y canrifoedd o gau’r drws ar y bobl Roma.

Fe fu hefyd yn gwrando ar Sipsiwn yn disgrifio’u ffordd nhw o fyw iddo.

“Mae eich hanes yn gymhleth, ac ar rai adegau, yn boenus,” meddai. “Rydych chi’n bobl nad ydych, dros y canrifoedd diwethaf, erioed wedi arddel ideolegau cenedlaetholgar, erioed wedi dyheu am feddiannu tir na goresgyn pobl eraill.

“Am ganrifoedd rydych wedi gwybod beth yw’r blas chwerw o fod heb ddim croeso ichi.”

Erchyllterau’r Natsïaid

Dywedodd iddo, ar bererindod i wlad Pwyl yn 2006, weddïo gerbron plac yn Auschwitz yn coffáu’r miloedd o Sipsiwn a gafodd eu lladd yng ngwersylloedd y Natsïaid: “Drama nad yw prin yn cael ei chydnabod hyd heddiw, ac sy’n anodd mesur ei graddau.”

“All cyfandir Ewrop ddim anghofio’r fath dristwch,” meddai. “Mynnwn na fydd eich pobl byth eto’n wrthrychau gormes, gwrthodiad a difrïaeth.”

Fe ddechreuodd y cyfarfod gyda phedwar o Sipsiwn yn disgrifio’u byd i’r Pontiff.

Ymatebodd Benedict trwy ddweud nad crwydraid yw llawer o Sipsiwn bellach ond pobl sy’n “ceisio sefydlogrwydd gyda disgwyliadau newydd”, gan gynnwys tai gweddus ac addysg i’w plant.

Galwodd ar sefydliadau Ewrop i “weithredu i gyd-gerdded â nhw ar y llwybr yma” tuag at fywyd gwell.

Mae swyddfa benodol yn y Fatican ar gyfer gofal bugeiliol i fewnfudwyr a chrwydraid.