Map (o wefan wikipedia) yn dangos lleoliad Yemen yn y Dwyrain Canol
Mae 30 o bobl wedi cael eu lladd mewn gwrthdaro rhwng milwyr Yemen a gwrthryfelwyr Islamaidd mewn amryw o drefi yn ne’r wlad.
Mae’r cadfridog a arweiniodd y cyrch yn erbyn yr Islamwyr heddiw ymysg amryw o brif ffigurau milwrol y wlad sydd wedi troi yn erbyn arlywydd y wlad ac sydd wedi cefnogi galwadau gan brotestwyr arno i fynd.
Mae’r cadfridogion yma sydd wedi cefnu ar yr Arlywydd Ali Abdullah Saleh yn ei gyhuddo o ganiatáu i’r trefi deheuol syrthio i ddwylo eithafwyr Islamaidd. Ymgais fwriadol ganddo yw hyn, meddai’r cadfridogion, i berswadio America a gwledydd eraill y gorllewin y byddai al Qaida’n ennill rheolaeth o’r wlad hebddo ef mewn grym.
Dywed swyddogion o’r llywodraeth fod 21 o wrthryfelwyr al Qaida a naw o filwyr wedi cael eu lladd yn yr ymladd heddiw.
Cadarnle al Qaida
Mae de’r wlad yn un o gadarnleoedd al Qaida ym Mhenrhyn Arabia, ac mae llywodraeth America o’r farn fod y gangen hon o’r rhwydwaith terfysgol yn fwy o fygythiad na’r cnewyllyn sy’n cuddio ar y ffin rhwng Pacistan ac Afghanistan.
Dyw hi ddim yn eglur fodd bynnag i ba radddau mae’r eithafwyr Islamaidd sydd wedi cipio’r trefi’n gysylltiedig ag al Qaida.
Mae’r Arlywydd Saleh wedi gwrthsefyll galwadau gan gannoedd o filoedd o brotestwyr sydd wedi llenwi strydoedd prif ddinasoedd Yemen ers dechrau mis Chwefror, ond mae’r mesurau llym y mae wedi eu cymryd wedi methu â chadw’r protestwyr draw.
Mae’r gwrthdaro wedi gwaethygu i fod yn frwydrau arfog yn y strydoedd ers pythefnos – rhwng lluoedd yr arlywydd a milwyr sy’n deyrngar i arweinydd llwythol mwyaf pwerus Yemen, sydd wedi troi yn erbyn yr arlywydd.