Dywed gweinidog iechyd yr Almaen ei fod yn obeithiol bod y gwaethaf drosodd o ran yr haint E.coli yn y wlad – ond rhybuddia y gall nifer y marwolaethau, sydd bellach yn 33, ddal i godi.
Daw sylwadau Daniel Bahr ddiwrnod ar ôl i swyddogion iechyd gyhoeddi eu bod wedi olrhain yr haint i egin ffa mewn fferm yng ngogledd yr Almaen. Fe wnaethon nhw hefyd godi’r rhybudd yn erbyn bwyta ciwcymbers, tomatos a letys, a oedd yn cael eu hamau fel ffynonellau posibl.
Mae’r achosion E.coli, y rhai mwyaf marwol erioed, wedi gwneud bron i 3,100 o bobl yn sâl – y mwyafrif ohonyn nhw yn yr Almaen – ac wedi codi amheuon ymysg llawer ynghylch diogelwch bwyta llysiau.
“Mae nifer mawr o achosion newydd yn annhebygol iawn, ond ni ellir diystyru’r posibilrwydd o ragor o farwolaethau,” meddai Daniel Bahr.
Yn ninas Hamburg heddiw, un o’r ardaloedd i gael eu taro waethaf, roedd pobl yn prynu ciwcymbers, tomatos a Letys unwaith eto.
Olrhain y ffynhonnell
Dywed swyddogion iechyd iddyn nhw olrhain trywydd y bacteria o gleifion ysbyty a oedd yn dioddef o ddolur rhydd a methiant arennau i dai bwyta lle buon nhw, i brydau penodol a’r union gynhwysion, ac yn olaf yn ôl i un fferm.
Fe gawson nhw hyd i fag o egin ffa o’r fferm a dangosodd profion mai dyma oedd y ffynhonnell. Ond mae cwestiynau o hyd o safbwynt beth a lygrodd yr egin ffa yn y lle cyntaf.
Trwy holi miloedd o gleifion, merched rhwng 20 a 50 oed yn bennaf a oedd yn byw’n iach, fe ddaeth yr ymchwilwyr i’r casgliad yn wreiddiol mai bwyd salad oedd y drwg.
Fe wnaeth y rhybudd i osgoi ciwcymbers, tomatos a letys arwain at golledion mawr i ffermwyr yn Ewrop.
“Wrth gwrs dw i’n cydymdeimlo â’r cwmnïau sydd wedi cael eu gadael â phentyrrau o giwcymbers, tomatos a letys,” meddai Daniel Bahr.
“Ond rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd – os oedd y rhybudd wedi cadw un bywyd dynol rhag perygl, mae hynny er budd pawb.”