Mae dirprwy Osama bin Laden wedi rhybuddio’r Unol Daleithiau fod y wlad yn wynebu dicter cymuned ryngwladol o Fwslemiaid sydd eisiau ei dinistrio.

Mewn fideo 28 munud mae Ayman al-Zawahri, pennaeth newydd mudiad terfysgol al-Qaida, yn talu teyrnged i Osama bin Laden.

Dywedodd hefyd fod gan Al Qaida ran i’w chwarae yn y protestiadau sydd wedi dymchwel unbeniaid ar draws y byd Arabaidd.

“Heddiw, diolch i Dduw, dyw’r Unol Daleithiau ddim yn wynebu unigolyn, neu grŵp,” meddai Ayman al-Zawahri yn y fideo.

“Maen nhw’n wynebu cenedl gyfan sydd wedi codi o’u trwmgwsg er mwyn datgan jihad.”

Roedd Ayman al-Zawahri yn llawn clod i Osama bin Laden, gafodd ei ladd gan filwyr o’r Unol Daleithiau yn nhref Abbottabad ym Mhacistan ar 2 Mai.

“Fe aeth at Dduw yn ferthyr. Roedd yn codi cymaint o ofn ar yr Unol Daleithiau pan oedd yn fyw nad oedden nhw hyd yn oed yn gallu ymdopi â’i weld mewn bedd,” meddai.

Dywedodd mai pendraw’r protestiadau ar draws y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica oedd sicrhau fod “cyfraith Islam yn rheoli’r tir”.