Ali Abdullah Saleh, Arlywydd Yemen
Dioddefodd Arlywydd Yemen, Ali Abdullah Saleh, losgiadau i tua 40% o’i gorff a dioddef gwaedu o’i ymennydd yn dilyn ymosodiad gan wrthryfelwyr ar ei blasty’r wythnos diwethaf.

Heddiw cyhoeddodd swyddogion yn yr Unol Daleithiau fod ei anafiadau yn waeth nag yr oedd Llywodraeth Yemen wedi ei honni.

Mae’r datgeliad yn awgrymu na fydd yn dychwelyd i Yemen yn y dyfodol agos gan roi cyfle i wrthryfelwyr ennill tir yn ei absenoldeb.

Mae’r gwrthdaro yn y wlad wedi gwaethygu ers i Ali Abdullah Saleh gael ei hedfan i Saudi Arabia am driniaeth yn dilyn yr ymosodiad nos Sadwrn.

Pryder am Al Qaida

Pryder yr Unol Daleithiau yw y bydd cangen Al Qaida yn Yemen yn cymryd mantais o’r anrhefn er mwyn cipio grym yn y wlad.

Dywedodd byddin Yemen eu bod nhw wedi lladd 30 o wrthryfelwyr Islamaidd eithafol ddoe, ar ôl iddynt feddiannu dinas Zinjibar yr wythnos diwethaf.

Mae Washington a Sawdi Arabia wedi galw ar uwch swyddogion Yemen i gymryd y cyfle i drosglwyddo grym o afael Ali Abdullah Saleh a sefydlu llywodraeth newydd.

Mae llysgennad yr Unol Daleithiau yn y brifddinas Sanaa wedi siarad gydag Is-Arlywydd Yemen, Abed Rabbo Mansour Hadi, sy’n rheoli’r wlad dros dro, er mwyn pwysleisio barn yr Unol Daleithiau.

Mae Ali Abdullah Saleh wedi bod mewn grym ers 33 mlynedd ond mae’r gwrthdaro dros y pedwar mis diwethaf wedi gwthio’r wlad tuag at ryfel cartref.