Lledodd llwch o losgfynydd yn Chile ar draws De America, gan orfodi miloedd o’u cartrefi ac atal awyrennau rhag hedfan ar draws yr Ariannin.
Atseiniodd y ffrwydradau drwy’r mynyddoedd wrth i fynydd tân Puyehue-Cordon Caulle daflu nwyon gwenwynig i’r awyr ychydig i’r gorllewin o ffin Chile a’r Ariannin.
Chwythodd y gwynt y cwmwl llwch chwe milltir o uchel i’r Iwerydd a hyd yn oed i Buenos Aires, sydd gannoedd o filltiroedd i’r gogledd-ddwyrain.
Mae adroddiadau o gyrchfannau gwyliau sgïo yn yr Andes yn awgrymu fod yr eira wedi ei orchuddio â haen fudr o lwch.
Annog pobol i ffoi
Yn Chile roedd swyddogion o’r gwasanaethau brys yn mynd o dŷi dŷ gan geisio argyhoeddi pobol i ffoi cyn cael eu dal gan dirlithriadau neu’r nwyon gwenwynig.
Erbyn dydd Llun roedd mwy na 4,000 o bobol wedi gadael 22 cymuned. Dechreuodd y bobol ffoi ddydd Sadwrn wrth i ddaeargrynfeydd awgrymu fod ffrwydrad ar y ffordd.
Ond roedd rhai wedi gwrthod gadael un o ardaloedd mwyaf ffrwythlon Chile, gan geisio diogelu eu ffermydd a’u da byw.
Dywedodd y Gweinidog Mewnol Rodrigo Ubilla fod tua 50 teulu yn yr ardal wedi gwrthod symud.
“Mae trafnidiaeth a lle i aros wedi ei baratoi ar eu cyfer nhw fel eu bod nhw’n gallu gadael yn syth,” ychwanegodd Vicente Nunez, cyfarwyddwr swyddfa gwasanaethau brys Chile.