Maes awyr Newark Liberty
Mae gyrwyr tacsi yn Efrod Newydd yn ôl wrth eu gwaith yn codi teithwyr o Faes Awyr Rhyngwladol Newark Liberty, ar ôl bod ar streic am bump awr. Roedden nhw’n tynnu sylw at arestio un o’u cyd-yrwyr.
Am oriau yn gynharach heddiw, fe fu’n rhaid i deithwyr o’r maes awyr ddefnyddio bysiau i wneud eu ffordd oddi yno i drefi a dinasoedd cyfagos, gan nad oedd yr un tacsi ar gael.
Roedd y brotest gan yrwyr tacsi Efrog Newydd a New Jersey yn tynnu sylw at arestio’r gyrrwr, Ahmed Deraz. Fe gafodd ei arestio am dynnu allan, yn honedig ddirybudd, o flaen heddwas a oedd yn teithio yn ei gar ei hun ar y Pulaski Skyway. Roedd yn gyrru’n beryglus, yn ôl yr heddwas.
Fe gafodd y brotest ei chynnal wedi i Mr Deraz gael ei ryddhau gan yr awdurdodau.
Newark Liberty ydi un o feysydd awyr prysuraf yr Unol Daleithiau, lle mae dros 33 miliwn o deithwyr yn cyrraedd ac yn gadael bob blwyddyn.