Mumbai, India
Mae un o benaethiaid amddiffyn India wedi rhybuddio Pacistan y bydd ei wlad yn ymateb i unrhyw ymosodiad terfysgol o dros y ffin.

Mae M M Pallam Raju, Gweinidog Amddiffyn India, wedi dweud ar goedd mewn cynhadledd amddiffyn yn Singapôr heddiw na fyddai ei wlad yn gallu peidio ag ymateb i ymosodiad tebyg i’r un yn Mumbai yn 2008 – ymosodiad a laddodd fwy na 160 o bobol.

Mae India wedi amau ers amser mai aelodau o asiantaeth gudd-wybodaeth ISI o Bacistan oedd wrth wraidd yr ymosodiad yn Mumbai.

Ond mae llywodraeth Pacistan wedi gwadu’r honiadau.